Gwybodaeth Modiwlau
Course Delivery
Assessment
Assessment Type | Assessment length / details | Proportion |
---|---|---|
Semester Assessment | Arholiad Llafar 10 Munud | 20% |
Semester Assessment | .5 Hours Prawf Prawf ysgrifenedig yn y dosbarth | 20% |
Semester Exam | 2 Hours Arholiad | 60% |
Supplementary Assessment | Arholiad Llafar 10 Munud | 20% |
Supplementary Assessment | .5 Hours Prawf Prawf ysgrifenedig yn y dosbarth .5 Awr | 20% |
Supplementary Exam | 2 Hours Arholiad 2 Awr | 60% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
O dan amodau arholiad, defnyddio terminoleg anatomaidd safonol i ddisgrifio rhannau'r corff a sut maent yn cysylltu â'i gilydd.
Disgrifio dyluniad sylfaenol y corff fertebraidd a dangos dealltwriaeth am y gwahaniaethau cymharol rhwng rhywogaethau domestig cyffredin, gan roi pwyslais arbennig ar y system cyhyrysgerbydol yn y cyd-destun milfeddygol.
Dangos dealltwriaeth sylfaenol am anatomeg y galon, y prif bibelli a'r system resbiradol yng nghyrff oedolion y rhywogaethau domestig cyffredin.
Disgrifio'r ffisioleg a'r anatomeg (gros ac uwch-adeileddol) yn amryw feinweoedd y systemau cyhyrysgerbydol, cardioresbiradol ac ambilennol, a sut maent yn rhyngweithio â systemau eraill yn y corff.
Disgrifio adeiledd yr ambilen (gan gynnwys y mannau arbenigol e.e. carn, corn, clust) mewn rhywogaethau milfeddygol, gan ddangos sut mae'r adeiledd yn gysylltiedig â'r swyddogaeth.
Brief description
Bydd y modiwl hwn yn cysylltu'r canghennau "Cardiofasgwlar a Resbiradol", "Croen" ac "Ymsymudol" â'i gilydd i gyfleu sut mae'r systemau hyn yn gweithredu mewn anifeiliaid ac i wella'r ddealltwriaeth am y cysylltiadau rhwng y systemau hanfodol hyn a gweddill y corff. Bydd y modiwl hwn yn rhoi golwg gyffredinol ar adeiledd normal y systemau cardiofasgwlar, resbiradol a chyhyrysgerbydol a sut maent yn gweithredu. Mae'r canghennau hyn wedi'u dylunio i gael eu dysgu drwy gydol y cwrs BVetMed ac yn y flwyddyn gyntaf fe'u dysgir yn y ddwy semester.
Content
Bydd y modiwl hwn yn astudio sut mae systemau ymsymudol yn cyfuno er mwyn i anifeiliaid ymsymud, gan gyfeirio'n benodol at gysylltiadau â'r systemau cardiofasgwlar a resbiradol. Mae'r cyflwyniad i ambilenni yn cwmpasu'r croen ac organau ectodermol arbenigol (e.e. carnau, cyrn) a sut mae'r system hon yn cyfrannu at ymddangosiad normal yr anifail a sut mae corff yr anifail yn gweithio.
Module Skills
Skills Type | Skills details |
---|---|
Adaptability and resilience | Y tu allan i'r oriau cyswllt ffurfiol, disgwylir i'r myfyrwyr wneud ymchwil, rheoli eu hamser a chyflwyno gwaith cwrs a gweithio at yr arholiadau erbyn y dyddiadau penodedig. Nid asesir yr agwedd hon. |
Co-ordinating with others | Drwy ddysgu mewn grwpiau bychain, anogir y myfyrwyr i gyfleu gwybodaeth, ei hasesu a'i chyflwyno mewn tîm. Nid asesir yr agwedd hon. |
Creative Problem Solving | Bydd dysgu mewn grwpiau bach/dosbarthiadau ymarferol, a'r arholiadau yn golygu datrys problemau. |
Critical and analytical thinking | Bydd y gwaith cwrs a'r arholiad yn gofyn i fyfyrwyr ymchwilio i bynciau ymchwil yn ddyfnach a'r tu hwnt i gwmpas deunydd y darlithoedd. Defnyddir gwybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau. Asesir y sgiliau ymchwil yn yr arholiad a'r gwaith cwrs. Rhoddir adborth i'r gwaith cwrs ar hyn. |
Digital capability | Defnyddio'r we i gael ffynonellau dibynadwy o wybodaeth a defnyddio cronfeydd data i ddod o hyd i destunau perthnasol wrth baratoi at yr asesiadau. Nid asesir yr agwedd hon. |
Professional communication | Bydd y myfyrwyr yn datblygu sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig effeithiol yn yr arholiad, a chyfathrebu ar lafar yn yr arholiad llafar, lle y'u hasesir. Rhoddir adborth ar hyn. |
Real world sense | Bydd gan y myfyrwyr gyswllt â milfeddygon ac ymchwilwyr bioleg a fydd yn rhoi iddynt ddealltwriaeth am y sectorau hyn. Nid asesir yr agwedd hon. |
Reflection | Bydd gan y myfyrwyr gyswllt â milfeddygon ac ymchwilwyr bioleg a fydd yn rhoi iddynt ddealltwriaeth am y sectorau hyn. Nid asesir yr agwedd hon. |
Subject Specific Skills | Yn ystod y modiwl, fe fydd y myfyrwyr yn dysgu terminoleg filfeddygol a lleoliadau anatomegol. |
Notes
This module is at CQFW Level 4