Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
TC21820
Teitl y Modiwl
Ffilm a Chyfryngau Cymru
Blwyddyn Academaidd
2024/2025
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Rhestr Ddarllen
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Portffolio Critigol  3000 o eiriau  60%
Asesiad Ailsefyll Traethawd - (i deitl newydd)  2000 o eiriau  40%
Asesiad Semester Portffolio critigol  3000 o eiriau  60%
Asesiad Semester Traethawd  2000 o eiriau  40%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Datblygu corff systemataidd o wybodaeth am hanes y cyfryngau yng Nghymru.

Datblygu gwybodaeth am ddadleuon cyfoes am ffilm a'r cyfryngau yng Nghymru.

Deall, cymharu a dadansoddi damcaniaethau am hanes ffilm a'r cyfryngau, a natur ffilm a chyfryngau cyfoes.

Cymhwyso gwybodaeth a dealldwriaeth er mwyn asesu'n feirniadol y problemau cyfoes sy'n wynebu ffilm a'r cyfryngau yng Nghymru.

Disgrifiad cryno

Fe fydd y modiwl hwn yn edrych ar ddatblygiad y cyfryngau yng Nghymru, gan gynnwys, ffilm, teledu, y wasg, a'r rhyngrwyd. Archwilir yr hinsawdd ddarlledu hanesyddol a chyfoes, gan ystyried hanes, polisiau a strwythurau darlledu, prif fudiadau a sefydlidau, yn ogystal a thestunau neilltuol. Dehonglir damcaniaethau sy'n rhoi modd o ddeall sialensiau sy'n wynebu'r cyfryngau yng Nghymru heddiw.

Cynnwys

Darlithoedd:

Hanes a Chyd-destun

Damcaniaethau am y cyfryngau yng Nghymru

Sefydliadau Prydeinig: BBC ac ITV

Ffilmiau Amatur Cynnar

Y Bwrdd Ffilmiau Cymraeg

S4C

Y Sector Annibynnol: Teliesyn

Y Wasg

Y Rhyngrwyd

Blogiau a Gwe 2.0


Seminarau:

Fe fydd y seminarau yn dilyn yr un patrwm a'r uchod

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Cyfrannu at drafodaethau seminar, ysgrifennu ar gyfer gwaith a asesir, darllen.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygu ymwybyddiaeth o ddiddordeb a medrau personol, ac ychwanegu at sgiliau sylfaenol.
Datrys Problemau Adnabod problemau wrth drafod pynciau, bod yn ymwybodol o gymhlethdodau wrth geisio ffurfio atebion.
Gwaith Tim Fe fydd disgwyl i fyfyrwyr weithio mewn grwpiau bychan yn y seminarau, ac i ddeall deinamig trafodaeth.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Er na asesir y medr yma yn ffurfiol, fe fydd cyfle i fyfyrwyr drafod eu prosesau dysgu gyda'u cyd fyfyrwyr a'r tiwtor. Rhoddir adborth manwl i draethodau ar y ffurflenni asesu.
Sgiliau ymchwil Disgwylir i fyfyrwyr ddarllen ac ymchwilio i ystod eang o ffynonellau (llyfrau, cyfnodolion, y we) ar gyfer seminarau ac asesiadau.
Technoleg Gwybodaeth Er nad yhw'n cael ei asesu yn ffurfiol, disgwylir i fyfyrwyr ddefnyddio'r we i ymchwilio, medru defnyddio pecynnau gair brosesu, ac i fod yn gyfarwydd a system e-bost y Brifysgol.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5