Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | 5 Awr Cyflwyniad | 40% |
Asesiad Ailsefyll | Portffolio 2000 Words | 60% |
Asesiad Semester | Portffolio 2000 Words | 60% |
Asesiad Semester | 5 Awr Cyflwyniad | 40% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Dealltwriaeth o’r swyddi, y strwythurau sy’n bodoli a’r disgwyliadau proffesiynol o fewn y Diwydiannau Creadigol.
Gallu adlewyrchu'n huawdl yn ysgrifenedig ac ar lafar ar y newidiadau sefydliadol sydd yn effeithio ar y Diwydiannau Creadigol cyfoes a sut maen nhw'n newid a pharhau i newid o dan amodau economaidd a hanesyddol amrywiol.
Medru cyflwyno dealltwriaeth o oblygiadau hynny ar waith creadigol unigol.
Disgrifiad cryno
Fe fyddwch yn archwilio’r Diwydiannau Creadigol cyfoes yng Nghymru, un o’r diwydiannau pwysicaf a mwyaf ffyniannus yng Cymru a thu hwnt. Yn ogystal ag edrych ar y maes yn ddamcaniaethol, rhydd y modiwl fewnwelediad i weithio yn y diwydiannau creadigol yng Nghymru heddiw, a hynny drwy gyfres o sesiynau gyda arbenigwyr o’r meysydd dan sylw. Byddwch yn edrych ar brif ddadleuon a phynciau llosg y maes megis nawdd gyhoeddus, Brexit a Covid-19 ac yn ystyried y posibiliadau ar gyfer modd mae’r Diwydiannau Creadigol yn chwarae rôl flaenllaw yng Nghymru a thu hwnt yn economaidd, yn greadigol, yn wleidyddol ac yn rhyngwladol.
Cynnwys
Wythnos 2: Y cysyniad o Nawdd Gyhoeddus (Celfyddydau a Darlledu)
Wythnos 3: Y Cenedlaethol a’r Lleol
Wythnos 4: Y Cenedlaethol a’r Rhyngwladol
Wythnos 5: COVID-19 a’r goblygiadau
Wythnos 6: Cyflwyniadau Myfyrywr
Gwahoddir unigolion o’r diwydiannau creadigol i gyfrannu i 4 sesiwn olaf y modiwl.
Wythnos 7: Sesiwn Gwâdd
Wythnos 8: Sesiwn Gwâdd
Wythnos 9: Sesiwn Gwâdd
Wythnos 10: Sesiwn Gwâdd
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Addasrwydd a gwydnwch | Bydd y modiwl yn cyflwyno amryw o bynciau ac aseiniadau, a bydd gofyn iddynt addasu i wybodaeth newydd a ffyrdd newydd o ymchwilio ar draws y modiwl. |
Cydlynu ag erail | Bydd y sesiynau dysgu yn rhoi’r cyfle i drafod ac ymchwilio pynciau fel grwp. |
Cyfathrebu proffesiynol | Cyfle i gwrdd a thrafod efo arbenigwyr o’r maes. |
Datrys Problemau Creadigol | Bydd myfyrwyr yn dysgu sgiliau ymchwil a phynciau academaidd er mwyn ymrwymo yn y sesiynau wythnosol. |
Gallu digidol | Bydd y modiwl yn defnyddio Blackboard i gyfleu prif wybodaeth y modiwl, a defnyddir Aspire, a system Turnitin. Defnyddir Powerpoint yn ystod y cyflwyniad. |
Meddwl beirniadol a dadansoddol | Bydd y myfyrwyr yn trin pynciau academaidd ac ymarferol drwyddi draw. Bydd disgwyl iddynt ymchwilio a myfyrio ar gasgliad o ffynonellau a phynciau yn y sesiynau dysgu a yn y broses o ffurfio’r aseiniadau |
Myfyrdod | Bydd sesiynau dysgu a’r aseiniadau yn galluogi myfyrwyr i adlewyrchu ar eu dealltwriaeth o’r pwnc, a’r proses o ymchwilio y Diwydiannau Creadigol. |
Synnwyr byd go iawn | Bydd y modiwl yn canolbwyntio ar drafodaethau a dealltwriaeth o’r cyd-destun proffesiynol. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4