Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Ailsefyll | 2 Awr Arholiad Ysgrifenedig | 100% |
Arholiad Semester | 2 Awr Arholiad Ysgrifenedig | 80% |
Asesiad Semester | Taflenni problemau | 20% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
1. Egluro gofynion y syniad o gyfraddau newid lleol a darfudol.
2. Cyfrifo’r forteisedd ar gyfer llif llifydd delfrydol.
3. Enrhifo’r amod anghywasgedd ar gyfer maes cyflymder penodol.
4. Cymhwyso a datrys yr hafaliadau rheoli mewn sefyllfaoedd penodol.
Disgrifiad cryno
Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno a'n datblygu'r cysyniad sylfaenol Hydrodynameg Glasurol a'n cynnig fframwaith ar gyfer gwerthfawrogiad modern o Fecaneg Hylifau.
Nod
I gynnig fframwaith sylfaenol ar gyfer gwerthfawrogiad modern o Ddynameg Hylifau. I gyflwyno cysyniad sylfaenol Hydrodynameg Glasurol. I egluro sut gall modelu mathemategol o fudiant hylif fod o gymorth er mwyn deall ffenomenau penodol yn y byd go iawn mewn meysydd megis meteoroleg ac aerodynameg.
Cynnwys
2. Adolygiad o galcwlws fector a systemau cyfesurynnol.
3. Systemau cyfeirio Euleraidd a Lagrangaidd.
4. Cinemateg mudiant hylif: llinlwybrau, llinliniau, llinreianau, forteisedd, ayyb.
5. Hafaliadau rheoli mudiant hylif sylfaenol.
6. Cymhwysiad hafaliadau Bernoulli.
7. Sylfeini hydrodynameg glasurol: Theoremau Kelvin; Llif anghylchdro.
8. Anghywasgrwydd: Llif potensial.
9. Strwythurau hydrodynameg syml mewn tri dimensiwn: tarddiadau, sinciau, dwbledi, ayyb.
10. Rhai problemau clasurol.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Addasrwydd a gwydnwch | Disgwylir i fyfyrwyr ddatblygu eu ffordd eu hunain o reoli amser ac i ddefnyddio'r adborth ar waith sy'n cael ei farcio er mwyn cefnogi eu dysgu. |
Cydlynu ag erail | Anogir myfyrwyr i weithio mewn grwpiau er mwyn datrys problemau. |
Cyfathrebu proffesiynol | Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno datrysiadau i ymarferion gosodedig sydd wedi'u hysgrifennu yn glir. |
Datrys Problemau Creadigol | Bydd yr aseiniadau'n cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr i ddangos eu creadigrwydd er mwyn darganfod datrysiadau a datblygu eu sgiliau datrys problemau. |
Gallu digidol | Bydd defnydd o'r rhyngrwyd, Blackboard, a phecynnau mathemategol yn cael ei argymell er mwyn hybu dealltwriaeth o gynnwys y modiwl ac o'r enghreifftiau o gymwysiadau. |
Sgiliau pwnc penodol | Mae'r modiwl yn datguddio myfyrwyr i bynciau mwy eang mewn mathemateg yn ogystal â chymwysiadau nad ydynt wedi dod ar eu traws o’r blaen. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5