Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Ailsefyll | 2 Awr Arholiad Arholiad 2 awr. | 50% |
Arholiad Semester | 2 Awr Arholiad Arholiad 2 awr. | 50% |
Asesiad Ailsefyll | Ymarferion Pecyn o ymarferion wythnosol. | 30% |
Asesiad Ailsefyll | Arholiad Llafar Arholiad llafar (10 munud). | 20% |
Asesiad Semester | Ymarferion Pecyn o ymarferion wythnosol. | 30% |
Asesiad Semester | Arholiad Llafar Arholiad llafar (10 munud). | 20% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
1. Byddwch yn gallu defnyddio'r ferf 'bod' yn yr Wyddeleg yn yr amser presennol, yr amser gorffennol, a'r amser dyfodol.
2. Byddwch yn gallu defnyddio'r enw yn y cyflwr enwol a'r cyflwr dadiol.
3. Byddwch yn gallu defnyddio'r rhagenwau personol yn gywir.
4. Byddwch yn gallu defnyddio'r ferf reolaidd a'r ferf afreolaidd yn yr amser presennol, gorffennol a dyfodol.
5. Byddwch yn gallu defnyddio rhifolion a dweud yr amser.
6. Byddwch yn gallu defnyddio rhai o gystrawennau'r berfenw.
7. Byddwch yn gallu defnyddio ambell gystrawen gypladol.
8. Byddwch yn gallu cynnal sgwrs syml yn yr Wyddeleg gan ddefnyddio'r pwyntiau gramadegol a chystrawennol uchod.
Disgrifiad cryno
Cyflwynir teithi sylfaenol Gwyddeleg Modern gan bwysleisio ynganiad Conamara. Bydd myfyrwyr yn cyrraedd safon A2 (CEFR; Common European Framework of Reference for Languages).
Cynnwys
2. Y ferf ‘bod’: presennol; gorffennol; dyfodol
3. Berfau rheolaidd/afreaolaidd: presennol; gorffennol; dyfodol
4. Cystrawen yr enw a’r ansoddair
5. System treigliadau’r Wyddeleg
6. Yr arddodiaid; defnydd o’r arddodiaid pwysicaf, ynghyd â’r ffurfiau personol.
7. Y cyplad a’i gystrawen.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Trafod materion gramadegol yn y gweithdai ; medru egluro gwallau gramadegol yn yr aseiniadau ac yn yr arholiad. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Bydd y gweithdai yn rhoi cyfle i fyfyrwyr drafod ymarferion iaith a darnau i’w cyfieithu; bydd y pecyn o dasgau yn caniatáu i fyfyrwyr fesur eu perfformiad a’u datblygiad personol. |
Datrys Problemau | Ymateb i heriau technegol y rheolau gramadegol a’r ymarferion gramadegol unigol; anelu at gywirdeb gramadegol. |
Gwaith Tim | Ceir cyfle i drafod mewn grŵp yn ystod gweithdai. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Bydd y gweithdai yn rhoi cyfle i fyfyrwyr drafod ymarferion iaith a darnau i’w cyfieithu; bydd y pecyn o dasgau yn caniatáu i fyfyrwyr fesur eu perfformiad a’u datblygiad personol. |
Rhifedd | Amherthnasol. |
Sgiliau pwnc penodol | Mae’r sgiliau gramadegol a ddatblygir yn rhai trosglwyddadwy a fydd o ddefnydd i fyfyrwyr yn y brifysgol ac yn y gweithle. |
Sgiliau ymchwil | Ymchwilio er mwyn atgyfnerthu’r rheolau gramadegol a ddysgir yn y dosbarth. |
Technoleg Gwybodaeth | Defnyddir rhaglen prosesu geiriau i gynhyrchu’r tasgau. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4