Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
FG10020
Teitl y Modiwl
Dynameg, Tonnau a Gwres
Blwyddyn Academaidd
2024/2025
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Pre-Requisite
Safon Uwch Ffiseg a Mathemateg neu gyfatebol
Exclusive (Any Acad Year)
Rhestr Ddarllen

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll 3 Awr   Arholiad  3 Awr  100%
Arholiad Semester 3 Awr   Arholiad  3 Awr  70%
Asesiad Semester Gwaith Cwrs  30%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Dwyn i gof a datgan egwyddorion sylfaenol dynameg, tonnau a ffiseg thermol.

Deillio a chymhwyso theori mudiant trawsfudol, cylchdroi ac osgiliadu, lledaeniad tonnau a chymwysiadau, a ffiseg thermol.

Llunio hafaliadau mathemategol wedi'u diffinio'n dda i fynegi problemau ar destunau dynameg, tonnau a ffiseg thermol, ac egluro cymwysiadau yr hafaliadau yn y cyd-destunau neilltuol.

Cymhwyso technegau mathemategol i ddatrys problemau rhifiadol wedi'u diffinio dda ar ddynameg, tonnau a ffiseg thermol.

Dehongli ac egluro atebion i broblemau yng nghyd-destun y gwyddorau ffisegol.

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl yn cyflwyno testunau craidd mewn cynlluniau gradd Gwyddorau Ffisegol a'u cymwysiadau. Mae ganddo dair prif ran. Mae'r rhan gyntaf yn cyflwyno mudiant trawsfudol, cylchdroi ac osgiliadu. Mae'r ail ran yn cyflwyno tonnau ac ymddygiad golau. Ystyrir ffiseg thermol ar raddfeydd macrosgopig ac atomig yn y rhan olaf.

Nod

Nod y modiwl yw i ddatblygu dealltwriaeth y myfyriwr o'r egwyddorion a thechnegau sydd wrth wraidd dynameg, tonnau a gwres a'u cymwysiadau. Rhoir pwyslais ar gymhwyso'r egwyddorion i ddatrys problemau gydag enghreifftiau rhifiadol yn cael eu darparu ar gyfer y myfyriwr i ymarfer. Mae'r modiwl yn ymdrin â thestunau craidd mewn cynlluniau gradd yn y gwyddorau ffisegol ac yn paratoi'r myfyriwr i ddefnyddio'r testunau ym modiwlau uwch Rhan 2.

Cynnwys

DYNAMEG
Rhagarweiniad i fectorau: mesurau fector a sgalar; cydrannu fectorau; lluoswm sgalar a lluoswm fector
Mudiant trawsfudol a mudiant cylchol: cinemateg; deddfau mudiant Newton; gwaith, egni a phŵer; gwrthdrawiadau
Mudiant cylchdroi solid: moment inertia; cyffelybiaethau gyda mudiant trawsfudol
Osgiliadu: mudiant harmonig syml; osgiliadu gorfod wedi'u gwanychu

TONNAU
Tonnau teithiol
Ffenomenau ton: arosodiad tonnau; effaith Doppler
Natur golau: opteg geometregol a natur tonnau
Gwasgariad; ymyriant; diffreithiant
Cymwysiadau a therfannau ar gyfer offer optegol

FFISEG THERMOL
Deddf serofed thermodynameg; graddfeydd tymheredd
Ehangiad thermol solidau
Cynhwysedd gwres a gwres cudd
Nwy delfrydol; newidynnau cyflwr
Deddf gyntaf thermodynameg: cydbwysedd thermol; egni mewnol; gwres; gwaith
Theori ginetig nwyon: dosraniad Maxwell-Boltzmann

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu proffesiynol Mae cyflwyniad clir o waith gan y myfyrwyr mewn gwaith cwrs ac arholiad semester yn datblygu sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig.
Datrys Problemau Creadigol Datblygir sgiliau datrys problemau gydol y modiwl a chânt eu hasesu mewn aseiniadau ac arholiad semester.
Gallu digidol Disgwylir i fyfyrwyr i ymchwilio testunau yn y modiwl trwy'r rhyngrwyd.
Sgiliau Pwnc-benodol Mae dynameg, tonnau a ffiseg thermol yn destunau craidd mewn cynlluniau gradd Ffiseg. Disgwylir i fyfyrwyr ddatblygu dealltwriaeth o'r testunau hyn.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4