Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Asesiad Isdeitlo Isdeitlo dwy raglen wrthgyferbyniol (5 munud yr un) . 1 rhaglen Gymraeg. 1 rhaglen Saesneg. | 70% |
Asesiad Semester | Adroddiad 1500 gair Adroddiad sy’n gwerthuso’r damcaniaethau a gyflwynwyd yn y modwl. | 30% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
1. dadansoddi swyddogaeth isdeitlydd a medru gwerthfawrogi a dehongli canllawiau isdeitlo gwahanol sianeli a gofynion OFCOM a gallu cymhwyso’r canllawiau hyn;
2. cyfieithu, defnyddio, dehongli a dadansoddi safonau ieithyddol, gwerthuso gwybodaeth yn feirniadol, ynghyd ag agweddau technegol yn hyderus i safon uchel, gan gynnwys amseru a fformadu isdeitlau;
3. creu ac amseru isdeitlau ar gyfer amrywiaeth o raglenni teledu sydd wedi’u recordio ymlaen llaw yn ôl y gynulleidfa darged ac i weithio ac ymchwilio’n annibynnol o dan bwysau amser ôl-gynhyrchu:
4. gwerthuso’n feirniadol theorïau gwahanol academyddion ac ymarferwyr yn y maes.
Disgrifiad cryno
Cynnwys
Cyflwynir hyfforddiant yn yr egwyddorion a’r sgiliau ieithyddol a thechnegol sy’n angenrheidiol ar gyfer isdeitlo i safon darlledu ac i osod amsernodau perthnasol.
Bydd y modiwl hefyd yn ymdrin â gosod lliwiau, dehongli, cywasgu, effeithiau sain, cyfieithu, amseru, fformadu, ayyb. Hyfforddir myfyrwyr i isdeitlo rhaglenni sydd wedi’u recordio ymlaen llaw, gan ganolbwyntio ar yr agweddau ieithyddol a thechnegol angenrheidiol ar gyfer isdeitlo rhyngieithol a mewnieithol.
Bydd elfen ymarferol y modiwl yn canolbwyntio ar ddatblygu hyder y myfyrwyr wrth iddynt roi cynnig ar ymarfer y grefft o isdeitlo o’r newydd, dan gyfarwyddyd, mewn gweithdai bach. Bydd y myfyrwyr ymgyfarwyddo â’r amrywiol gynulleidfaoedd y bwriedir yr isdeitlau ar eu cyfer, e.e. y byddar a’r trwm eu clyw, plant, dysgwyr iaith ac ati. Ceir cyfle i drafod gwaith unigolion er mwyn gwerthuso isdeitlau a’u goblygiadau ac i ddysgu o sylwadau’r tiwtor a myfyrwyr eraill.
Bydd y modiwl yn trafod agweddau megis addasu diwylliannol, cyfieithu ar y sgrin, damcaniaethau cyfathrebu ac amlieithrwydd, ynghyd â gwerthuso agweddau damcaniaethol o’r maes.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Cynhyrchu isdeitlau sy'n arddangos triniaeth effeithiol o sain, delweddau a’r gair ysgrifenedig. Gwneir trwy’r prawf isdeitlo. Ysgrifenedig – cyflwyno gwybodaeth am sefyllfa isdeitlo ar ffurf adroddiad. Gwneir trwy’r adroddiad ysgrifenedig. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Mae’r modwl yn un proffesiynol sy’n meithrin sgil defnyddiol a pherthnasol iawn i yrfaoedd yr unigolion sy’n ei ddilyn. Gwneir trwy’r prawf isdeitlo. Gwneir trwy’r adroddiad ysgrifenedig. |
Datrys Problemau | Meddwl drostynt eu hunain a gweithio'n annibynnol i gywain gwybodaeth angenrheidiol er mwyn creu isdeitlau effeithiol. Gwneud penderfyniadau mewn amryw sefyllfaoedd heriol, e.e. nid oes amser i feddwl a thrafod unrhyw broblemau tra’n isdeitlo o dan bwysau amser. Asesir hyn drwy’r prawf a thrwy osod rhaglenni heriol i’w hisdeitlo mewn amgylchiadau proffesiynol. |
Gwaith Tim | Gweithio'n gynhyrchiol mewn tîm, gan ddangos y gallu i wrando a chyfrannu'n effeithiol ac ar adegau i arwain. Gwneir trwy’r prawf isdeitlo. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Dangos meistrolaeth yn y maes isdeitlo. Gweithio mewn modd hyblyg, creadigol ac annibynnol, gan ddangos hunanddisgyblaeth a hunan gyfeiriad Gwneir trwy’r prawf isdeitlo. |
Rhifedd | Rhaid defnyddio gwybodaeth rifyddol i amseru isdeitlau. Gwneir trwy’r prawf isdeitlo. |
Sgiliau pwnc penodol | Mae’n fodiwl arbenigol ac ymarferol sy’n datblygu dealltwriaeth o brosesau cynhyrchu ac arferion proffesiynol o fewn y cyfryngau, diwydiannau diwylliannol a chyfathrebu. Gweithio gan arddangos hyblygrwydd a chreadigrwydd. Gwneir trwy’r prawf isdeitlo. |
Sgiliau ymchwil | Paratoi ac ystyried geirfa/termau allweddol oddi fewn i derfyn amser penodol i’w trosi o un iaith i’r llall. Llunio adroddiad beirniadol. Gwneir trwy’r prawf isdeitlo. Gwneir trwy’r adroddiad ysgrifenedig |
Technoleg Gwybodaeth | Defnyddio offer isdeitlo a gwefannau safonol a pherthnasol. Gwneir hyn trwy’r prawf isdeitlo. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7