Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Portffolio o destunau arbenigol | 50% |
Asesiad Ailsefyll | Cronfa o derminoleg arbenigol | 20% |
Asesiad Ailsefyll | Sylwebaeth yn olrhain y broses gyfieithu | 30% |
Asesiad Semester | Portffolio o destunau arbenigol | 50% |
Asesiad Semester | Cronfa o derminoleg arbenigol | 20% |
Asesiad Semester | Sylwebaeth yn olrhain y broses gyfieithu | 30% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Dangos dealltwriaeth gadarn o anghenion cyfieithu meysydd arbenigol
Addasu eu sgiliau iaith wrth ymwneud â therminoleg anghyfarwydd
Trosglwyddo sgiliau o feysydd cyfieithu cyffredinol i feysydd cyfieithu arbenigol
Cyfieithu testunau arbenigol yn gywir, yn gyflym ac yn effeithlon
Disgrifiad cryno
Yn y modiwl hwn bydd myfyrwyr yn cael cyfle i ddatblygu arbenigedd cyfieithu mewn maes dewisol. Cyflwynir iddynt strategaethau er mwyn adnabod nodweddion gwahanol feysydd a gosodir tasgau heriol er mwyn mireinio sgiliau cyfieithu arbenigol. Cyflwynir hefyd strategaethau a chyfleoedd ymarferol i ymchwilio i derminoleg a gwybodaeth sy’n benodol i faes arbennig.
Nod
Pwrpas y modiwl hwn yw rhoi cyfle i fyfyrwyr ddatblygu’r sgiliau a gyflwynwyd yn y modiwlau craidd a rhoi cyfle iddynt ddatblygu arbenigedd cyfieithu mewn maes penodol e.e. maes deddfwriaethol, addysg, gofal ac iechyd.
Cynnwys
ii. Cynhelir 2 sesiwn arall wyneb yn wyneb yn ystod y modiwl, wedi’u teilwra yn ôl gofynion prosiectau unigol.
iii. Cynhelir gweithdai amrywiol gan arbenigwyr penodol e.e. ym maes deddfwriaeth / technoleg.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Trwy’r ymarferion cyfieithu bydd myfyrwyr yn arddangos eu sgiliau iaith a’u gallu i drosglwyddo ystyr o un iaith i’r llall yn gywir ac i safon uchel. Bydd cyfle i ddatblygu’r sgiliau hynny ymhellach wrth ddatblygu ymwybyddiaeth o feysydd arbenigol. Bydd gofyn i’r myfyrwyr hefyd gyfathrebu’n effeithiol a chydweithio drwy gyfrwng y gweithdai gan arbenigwyr penodol a thrwy gyfrwng y gwaith uniongyrchol a gwblheir ar leoliad. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Gofynnir i’r myfyrwyr ystyried eu gwaith a’i ddatblygu yn dilyn adborth a fydd yn gymorth iddynt wrth ddatblygu gyrfa. Hefyd, ceir mewnbwn allweddol gan gyfieithwyr profiadol er mwyn cefnogi cynlluniau personol y myfyrwyr a cheir cyfle i rwydweithio gyda chyfieithwyr proffesiynol. |
Datrys Problemau | Bydd yn rhaid i fyfyrwyr arddangos eu gallu i ddewis a dethol pa derminolegau ac adnoddau iaith i’w defnyddio wrth ymdrin â thestunau arbenigol. Wrth drafod adnoddau a thestunau gydag arbenigwyr, byddant yn dangos tystiolaeth o bwyso a mesur a gwerthuso wrth wneud |
Gwaith Tim | Bydd y myfyrwyr yn cyfrannu at drafodaethau mewn seminarau a gweithdai, yn dangos eu sgiliau trin a thrafod a rhannu syniadau. Byddanthefydyntrafodadborthac yncyfrannu’nadeiladol at waith y grŵp. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Wrth lunio’r Prosiect bydd y myfyrwyr yn paratoi darnau cyfieithu ac yn derbyn adborth rheolaidd. O ganlyniad byddant yn adolygu eu gwaith ac yn mireinio eu sgiliau er mwyn gwella eu perfformiad. Byddant hefyd yn derbyn adborth gan arbenigwyr yn y diwydiant cyfieithu er mwyn medru perfformio ar lefel broffesiynol. |
Rhifedd | |
Sgiliau pwnc penodol | Datblygir sgiliau cyfieithu trwy gwblhau cyfres o gyfieithiadau, trwy ddefnyddio technoleg a thrwy gydweithio ag arbenigwyr o fewn y maes cyfieithu. |
Sgiliau ymchwil | Bydd yn rhaid i fyfyrwyr arddangos eu gallu i ymchwilio i wahanol ffynonellau (geiriaduron, terminolegau, meddalwedd) cyn gwneud penderfyniadau deallus ynghylch yr eirfa a’r cyfarpar addas i’w defnyddio o fewn meysydd penodol. |
Technoleg Gwybodaeth | Bydd yn rhaid i’r myfyrwyr gyflwyno gwaith yn electronig a defnyddio geiriaduron a therminolegau ac amrywiol gyfarpar cyfieithu er mwyn cyflwyno aseiniadau |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7