Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
CYM5210
Teitl y Modiwl
Cyfarpar Cyfieithu
Blwyddyn Academaidd
2024/2025
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Rhestr Ddarllen

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Cyflwyniad  Cyflwyniad estynedig ar lafar yn seiliedig ar gyfieithiad penodol.  50%
Asesiad Ailsefyll Ymarferiad Cyfieithu pwrpasol gyda sylwebaeth  50%
Asesiad Semester Ymarferiad Cyfieithu gyda thechnoleg gyda sylwebaeth  50%
Asesiad Semester Cyflwyniad  Cyflwyniad estynedig ar lafar yn seiliedig ar gyfieithiad penodol. 15 Minutes  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Arddangos adnabyddiaeth o’r ffynonellau geiriadurol a therminolegol sydd ar gael yng Nghymru heddiw, a medru adnabod eu defnyddioldeb a’u gwerth.

Dangos dealltwriaeth o sut mae meddalwedd cof cyfieithu yn gallu cynorthwyo gwaith y cyfieithydd testun.

Cyfieithu darnau o destun yn gywir ac yn addas gan ddefnyddio meddalwedd cof cyfieithu.

Esbonio defnyddioldeb cyfieithu peirianyddol i’r cyfieithydd ac i eraill sy’n gweithio mewn cyd-destun dwyieithog.

Deall sut mae defnyddio meddalwedd cyfieithu peirianyddol law yn llaw â meddalwedd cof cyfieithu ac asesu ei defnyddioldeb.

Disgrifiad cryno

Yn y modiwl hwn bydd myfyrwyr yn cael cyfle i ddefnyddio gwahanol becynnau o feddalwedd cyfieithu a fydd yn hwyluso eu gwaith a byddant yn ystyried addasrwydd y feddalwedd honno ar gyfer gwahanol dasgau. Byddant hefyd yn dysgu am ffynonellau geiriadurol a therminolegol a chyfeirlyfrau yng Nghymru gyfoes ac yn trafod ac asesu defnyddioldeb cyfieithu peirianyddol.

Nod

Pwrpas y modiwl hwn yw cyflwyno myfyrwyr i’r adnoddau sydd o gymorth i waith cyfieithwyr proffesiynol yng Nghymru, gan gynnwys meddalwedd technoleg gwybodaeth, cof cyfieithu, terminolegau, geiriaduron a chyfeirlyfrau.

Cynnwys

Bydd y seminarau wyneb yn wyneb a thrwy’r rhwydwaith fideo yn cynnwys seminarau a gweithdai a fydd yn trafod yr elfennau canlynol:

i) Defnyddio ac archwilio meddalwedd gyfrifiadurol sydd yn cefnogi gweithio mewn mwy nag un iaith.
ii) Dysgu a rhannu gwybodaeth am y ffynonellau ymchwil ac adnoddau geiriadurol a therminolegol a phwyso a mesur eu defnyddioldeb.
iii) Dysgu am ffynonellau terminolegol yng Nghymru gyfoes, gan gynnwys astudio’r gwahaniaeth rhwng termau technegol a geirfa fwy cyffredinol ac ystyried ym mha gyd-destun y dylid eu defnyddio.
iv) Asesu defnyddioldeb cyfieithu peirianyddol ar-lein (e.e. Google Translate, Bing) yng ngwaith y cyfieithydd.
v) Cyflwyniad i systemau cof cyfieithu a ddefnyddir gan sefydliadau cyhoeddus a phreifat.
vi) Trafodaeth ar yr elfennau uchod a’r modd y’u defnyddiwyd wrth gyflawni ymarferion y modiwl (o bosib gyda chyfieithwyr eraill).
vii) Trafodaeth bellach ar yr elfennau uchod a pharatoi ar gyfer cwblhau’r aseiniadau.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Trwy’r gweithdai a’r seminarau bydd myfyrwyr yn arddangos eu sgiliau trafod a dadansoddi, a thrwy’r aseiniadau, yn datblygu eu defnydd o gyfarpar cyfieithu ac yn esbonio addasrwydd gwahanol gyfarpar ar gyfer trosglwyddo ystyr o un iaith i’r llall yn gywir ac i safon uchel.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Gofynnir i’r myfyrwyr ystyried eu gwaith ac esbonio eu dealltwriaeth o gyfarpar cyfieithu a fydd yn gymorth iddynt wrth ddatblygu gyrfa.
Datrys Problemau Bydd yn rhaid i fyfyrwyr arddangos eu gallu i ddewis a dethol pa derminoleg a chyfarpar i’w defnyddio er mwyn cyfieithu testunau o un iaith i’r llall. Wrth drafod gwaith eu hunain a’i gilydd, byddant yn dangos tystiolaeth o bwyso a mesur a gwerthuso a dod i gasgliadau clir ynghylch y defnydd o iaith a chyfarpar.
Gwaith Tim Bydd y myfyrwyr yn cyfrannu at drafodaethau mewn seminarau a gweithdai, yn dangos eu sgiliau trin a thrafod a rhannu syniadau, ac yn cyfrannu’n adeiladol at waith y grŵp i gyd.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd myfyrwyr yn datblygu eu dealltwriaeth o gyfarpar cyfieithu wrth fynd rhagddynt, yn adolygu eu gwaith, ac yn ystyried ac esbonio’r datblygiad hwn er mwyn gwella eu perfformiad
Rhifedd
Sgiliau pwnc penodol Datblygir sgiliau cyfieithu drwy gyfrwng cyfres o gyfieithiadau da thrwy ddefnyddio gwahanol offer pwrpasol.
Sgiliau ymchwil Bydd yn rhaid i fyfyrwyr arddangos eu gallu i ymchwilio i wahanol ffynonellau (geiriaduron, terminolegau, meddalwedd) cyn gwneud penderfyniadau deallus ynghylch yr eirfa a’r cyfarpar addas i’w defnyddio
Technoleg Gwybodaeth Bydd yn rhaid i’r myfyrwyr gyflwyno gwaith yn electronig a defnyddio geiriaduron a therminolegau ac amrywiol gyfarpar cyfieithu er mwyn cyflwyno aseiniadau

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7