Gwybodaeth Modiwlau
Course Delivery
Assessment
Assessment Type | Assessment length / details | Proportion |
---|---|---|
Semester Assessment | Aseiniad drafftio cyfreithiol 2000 o eiriau | 50% |
Semester Exam | 2 Hours Arholiad 2 Awr | 50% |
Supplementary Assessment | Aseiniad drafftio cyfreithiol 2000 o eiriau | 50% |
Supplementary Exam | 2 Hours Arholiad 2 Awr | 50% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
Egluro egwyddorion cyfreithiol Cyfraith Tir.
Dadansoddi sefyllfaoedd ffeithiol yn ymwneud â chyfraith tir a chymhwyso egwyddorion cyfraith tir i’r sefyllfaoedd hynny.
Gwneud ymchwil annibynnol ar agweddau o’r gyfraith a mynd i’r afael â thrafodaethau a gwahanol safbwyntiau ynglŷn â’r gyfraith bresennol, y problemau posibl a’r diwygiadau posibl.
Gallu dadlau sut i gymhwyso’r gyfraith i bartïon mewn anghydfod – gan gyflwyno achos y naill a’r llall a chloriannu pa un yw’r ddadl fwyaf argyhoeddiadol.
Gallu cyflwyno canlyniadau yn ysgrifenedig yn effeithiol ar lefel academaidd gan ddefnyddio’r derminoleg berthnasol a chyfeirnodi deunydd yn y modd priodol.
Deall egwyddorion sefydledig cyfraith tir, a’r modd y mae’r egwyddorion hynny wedi datblygu.
Brief description
Nod y modiwl hwn yw cyflwyno’r myfyrwyr i egwyddorion hanfodol perchnogaeth Tir yng Nghymru a Lloegr, a hawliau pobl eraill dros dir, a dulliau gorfodi’r hawliau hynny, gan gynnwys y cyd-berchennog ecwitïol, y prydleswr a’r morgeisiai, y cyfamodai a pherchennog y rhandir trech at ddibenion caniatáu hawddfraint.
Content
2. Pa elfennau sydd i gyfraith tir?
3. Perchnogaeth a chydberchnogaeth tir
4. Prydlesi
5. Morgeisi
6. Hawddfreintiau
7. Cyfamodau
8 Tir cofrestredig ac anhofrestredig
Module Skills
Skills Type | Skills details |
---|---|
Application of Number | Amherthnasol. |
Communication | Gwaith paratoi a thrafodaethau yn y seminarau. |
Improving own Learning and Performance | Gwaith seminar: paratoi a thrafodaethau grŵp. Asesiadau ffurfiannol trwy sesiynau ymarfer yn y dosbarth. |
Information Technology | Ymchwil ar ôl darlithoedd ac wrth baratoi ar gyfer seminarau. |
Personal Development and Career planning | Bydd yr hyn a ddysgir ar y modiwl yn berthnasol i yrfa ym mhroffesiwn y gyfraith. |
Problem solving | Paratoi ar gyfer cwestiynau datrys problemau yn y seminar, a’u trafod. |
Research skills | Ymchwil ar ôl darlithoedd ac wrth baratoi ar gyfer seminarau. |
Subject Specific Skills | Ymchwil cyfreithiol: defnyddio cronfeydd data cyfreithiol pwrpasol fel adnodd ar gyfer cyfraith statudau a chyfraith achosion. |
Team work | Gwaith seminar: paratoi a thrafod mewn grwpiau. |
Notes
This module is at CQFW Level 5