Gwybodaeth Modiwlau
Course Delivery
Assessment
Assessment Type | Assessment length / details | Proportion |
---|---|---|
Semester Assessment | Prosiect Wici 4,500 - 5,000 gair pob grwp (tua 1,500 - 2,000 gair fesul person) | 50% |
Semester Exam | 2 Hours Arholiad 2 Awr | 50% |
Supplementary Assessment | Aseiniad ysgrifenedig 2000 o eiriau | 50% |
Supplementary Exam | 2 Hours Arholiad 2 Awr | 50% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
Esbonio rôl cyrchfannau ac atyniadau yn y system dwristiaeth.
Trafod yr hyn sy’n gwneud cyrchfannau ac atyniadau yn gystadleuol.
Asesu sail resymegol, cwmpas a dulliau rheoli cyrchfannau ac atyniadau.
Nodi a chloriannu’r heriau allweddol wrth reoli cyrchfannau ac atyniadau.
Gwerthuso amrywiaeth o astudiaethau achos cyfoes ar reoli cyrchfannau ac atyniadau i ymwelwyr.
Brief description
Cyrchfannau sydd wrth wraidd y system dwristiaeth. I gwsmeriaid, mae’r gyrchfan yn dylanwadu’n sylweddol ar y penderfyniad i deithio, gan lywio eu disgwyliadau a’u boddhad. I gynhyrchwyr, y gyrchfan yw’r cyd-destun y caiff y gwasanaeth/cynnyrch ei greu a’i gyflwyno oddi mewn iddo. Mae atyniadau yn chwarae rôl allweddol yn natblygiad a chynaliadwyedd cyrchfannau twristiaeth. Mae’r modiwl hwn yn edrych ar natur y gyrchfan a’r hyn sy’n ei wneud yn gystadleuol, rôl sefydliadau rheoli cyrchfannau a marchnata trwy ddefnyddio delweddau o gyrchfannau. Mae’r modiwl hefyd yn edrych ar y modd y caiff atyniadau i ymwelwyr eu datblygu, eu marchnata a’u rheoli.
Content
Grymoedd sy’n dylanwadu ar ba mor gystadleuol yw cyrchfan. Sut i fod yn gystadleuol mewn marchnad ddeinamig. Risgiau ac argyfyngau. Sut i adnabod argyfyngau, eu rheoli, ac adfer yn eu sgil.
Delweddau cyrchfannau. Sut i’w ffurfio, eu dylanwadau a’u swyddogaethau. Technegau ar gyfer asesu delweddau. Rheoli delwedd cyrchfannau.
Swyddogaeth a natur atyniadau i ymwelwyr. Datblygu atyniadau i ymwelwyr. Economeg datblygu parciau thema. Problemau wrth ddatblygu atyniadau i ymwelwyr mewn ardaloedd ymylol. Arwyddocâd cymdeithasol a gwleidyddol. Materion yn ymwneud â dilysrwydd.
Rheoli atyniadau i ymwelwyr. Rheoli effaith ymwelwyr. Rheoli tymoroldeb yn strategol. Heriau i atyniadau sy’n seiliedig ar grefydd. Materion yn ymwneud â rheoli adnoddau dynol.
Marchnata atyniadau i ymwelwyr. Heriau a chyfleoedd i atyniadau sy’n seiliedig ar dreftadaeth. Materion brandio. Strategaethau marchnata cystadleuol a chydweithredol.
Module Skills
Skills Type | Skills details |
---|---|
Application of Number | Darparu ffigurau yn y wikis a asesir a’u trafod e.e. twf twristiaeth mewn cyrchfan benodol o flwyddyn i flwyddyn a’r goblygiadau cysylltiedig. |
Communication | Bydd gofyn i’r myfyrwyr ddatblygu cynnwys ar-lein effeithiol ac ynacymryd rhan mewn trafodaethau ar-lein. Asesir sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig y myfyrwyr yn yr arholiadau. |
Improving own Learning and Performance | Myfyrio ar y broses o weithio mewn tîm i gwblhau’r wiki. |
Information Technology | Bydd angen i’r myfyrwyr ddefnyddio TG wrth gwblhau eu prosiectau - sef creu prosiect wiki ar y cyd yn achos y modiwl hwn. Caiff hyn ei asesu a rhoddir adborth hefyd. |
Personal Development and Career planning | Bydd y modiwl yn cynnwys dau ymweliad safle, a fydd yn rhoi cipolwg ar sut i ddatblygu a rhedeg atyniadau i ymwelwyr. |
Problem solving | Bydd angen i’r myfyrwyr ddatblygu cyfres gydlynol o dudalennau wiki ar gyrchfan dwristiaeth a ddewisir gan y grŵp. Bydd angen iddynt benderfynu sut orau i rannu’r gwaith, beth i’w gynnwys yn y tudalennau a sut i gydweithio i gwblhau’r dasg. |
Research skills | Bydd gofyn i’r myfyrwyr gynllunio a gwneud ymchwil ar gyfer eu cyflwyniad grŵp, gan ddefnyddio adnoddau llyfrgell ac electronig. Caiff hyn ei asesu yn y cyflwyniad a rhoddir adborth i’r myfyrwyr. |
Subject Specific Skills | Cynnwys o’r darlithoedd ar gyrchfannau ac atyniadau. |
Team work | Bydd y myfyrwyr yn gweithio mewn grwpiau ar aseiniad, a fydd yn arwain at brosiect grŵp a asesir. Wrth wneud hyn, bydd angen iddynt ddangos sgiliau effeithiol wrth weithio mewn tîm. Bydd elfen o farc y prosiect yn adlewyrchu’r elfen gwaith tîm a rhoddir adborth ar hyn i’r myfyrwyr. |
Notes
This module is at CQFW Level 5