Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
BG39920
Teitl y Modiwl
Datblygiadau mewn Amaethyddiaeth
Blwyddyn Academaidd
2024/2025
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Exclusive (Any Acad Year)
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Adroddiad Taith Astudio  4000 o eiriau  100%
Asesiad Semester Adroddiad Taith Astudio  4000 o eiriau  100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Arddangos y gallu i ystyried amaethyddiaeth a materion amaethyddol o ystod o safbwyntiau penodol, amlddisgyblaethol a rhyngddisgyblaethol.

Dangos dealltwriaeth o'r berthynas rhwng polisi, ffactorau economaidd-gymdeithasol, arferion amaethyddol a'r economi wledig.

Mabwysiadu agwedd feirniadol, werthusol a dadansoddol tuag at amaethyddiaeth a’r economi wledig.

Gwerthuso rhagolygon y diwydiant amaeth yn y dyfodol.

Dangos sut y byddai sgiliau cyflogadwyedd pwnc-benodol a chyffredinol a enillwyd yn werthfawr i sefydliadau gwledig.

Disgrifiad cryno

Bydd myfyrwyr ar y modiwl yn ymweld â sir neu ranbarth ar daith astudio ac yn dod i werthfawrogi ei nodweddion daearyddol, cymdeithasol ac economaidd. Bydd ymweliadau â ffermydd, busnesau gwledig a sefydliadau sy'n ymwneud â rheoleiddio a rheoli cefn gwlad yn astudiaethau achos i amlygu'r materion allweddol presennol ac yn y dyfodol sydd yn y fantol. Bydd myfyrwyr yn cyflwyno adroddiad ysgrifenedig a fydd yn gwerthuso’r rhanbarth a’r sefydliadau yr ymwelwyd â nhw a sut y byddai’r sgiliau y maent wedi’u hennill yn werthfawr i’r sefydliadau. Bydd yr ymagwedd drwyddi draw yn ddadansoddol, yn feirniadol ac yn gwerthusol.

Cynnwys

Cyflwynir y modiwl trwy gyfuniad o ymweliadau a wneir tra ar daith astudio o amgylch busnesau, sefydliadau a safleoedd neu leoliadau yng nghwmni gwesteiwyr a/neu dywyswyr arbenigol. Ategir y rhain gan sesiynau pellach ar ôl y daith astudio i gynorthwyo myfyrwyr gyda'u hasesiad.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu proffesiynol Bydd gofyn i fyfyrwyr ysgrifennu 'llythyr eglurhaol' i fynegi eu diddordeb mewn ymgeisio am rôl yn un o'r sefydliadau y canolbwyntir arnynt yn y modiwl.
Meddwl beirniadol a dadansoddol Bydd y modiwl yn gofyn i fyfyrwyr werthuso cryfderau a gwendidau sefydliadau gwledig o’r byd go iawn a dadansoddi sut mae eu gweithrediadau yn cael eu dylanwadu gan eu hamgylchedd ffisegol, rheoleiddiol, economaidd-gymdeithasol a pholisi a sut y gall y rhain newid yn y dyfodol.
Myfyrdod Bydd gofyn i fyfyrwyr fyfyrio ar sut y byddai'r sgiliau generig a phwnc-benodol y maent wedi'u hennill o fudd i sefydliadau gwledig penodol.
Sgiliau Pwnc-benodol Bydd gofyn i fyfyrwyr 'meincnodi' perfformiad sefydliadau gwledig trwy gymharu â ffynonellau data priodol.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6