Newyddion a Digwyddiadau

Am y diweddaraf am ein systemau a'n gwasanaethau, ewch i Statws Gwasanaethau GG

Oriau agor Gwasanaethau Gwybodaeth dros gyfnod y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd

20/12/2024

Bydd Gwasanaethau Gwybodaeth yn cau am 16:30 dydd Gwener, 20fed Rhagfyr 2024 ac yn ail-agor am 08:30 ar dydd Iau, 2il Ionawr 2025. Mae Lefel D, Llyfrgell Hugh Owen, ar agor 24/7 trwy gydol yr amser hwn https://www.aber.ac.uk/cy/is/opening-hours/
Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bawb oddi wrthym ni i gyd yn GG.

Gwasanaethau a Chymorth TG a Llyfrgell i fyfyrwyr dros y gwyliau

05/12/2024

P'un a ydych chi'n gadael ar gyfer y gwyliau, neu'n aros yma yn Aber, dyma'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch am eich gwasanaethau TG a Llyfrgell y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd hon: https://www.aber.ac.uk/cy/is/news/isupdate/

Mwynhewch yr egwyl

Paratoi ar gyfer arholiadau

04/12/2024

Mae cyfnod yr arholiadau bron yma. Edrychwch ar ein harddangosfa adolygu a pharatoi ar gyfer arholiadau ar Lefel E, Llyfrgell Hugh Owen. Fe welwch lawer o gyngor ac adnoddau ymarferol ar ystod eang o sgiliau pwysig, gan gynnwys:

  • adolygu effeithiol
  • mynd i'r afael â chwestiynau arholiadau

Cymerwch gip ar yr 20 awgrym defnyddiol ar gyfer adolygu ac arholiadau yr argymhellwyd gan gyd-fyfyrwyr.

Cyngor ac arweiniad pellach ar gael yn SgiliauAber – Adolygu ac arholiadau: https://www.aber.ac.uk/cy/aberskills/exams/

Amserlen arholiadau terfynol

25/11/2024

Mae amserlen arholiadau terfynol ar gyfer semester un ar gael ar y wefan amserlennu. Os am gyngor pellach parthed arholiadau, gallwch gysylltu â’ch swyddog arholiadau adrannol.

Raffl Arolwg Defnyddwyr GG 2024

10/12/2024

Llongyfarchiadau i enillwyr ein raffl Arolwg Defnyddwyr GG 2024:

  • Ardi Budi Prakoso, myfyriwr MSc mewn Gwyddor Anifeiliaid
  • Ethan Henry, myfyriwr israddedig Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol

Bydd Ardi ac Ethan yn derbyn taleb £50 o'u dewis yr un - mwynhewch!

Diolch o galon i bawb a roddodd o'u hamser i rannu eu hadborth gyda ni eleni. Ar hyn o bryd rydym wrthi'n craffu ar y data ac yn darllen eich sylwadau a byddwn yn cyhoeddi ein cynllun gweithredu ar gyfer y flwyddyn i ddod cyn gynted ag y bydd yn barod.

Eich llyfrgell, eich newyddion

11/12/2024

Cadwch mewn cysylltiad â'ch llyfrgell trwy gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr llyfrgell! newydd sbom

Tanysgrifiwch i Newyddion y Llyfrgell PA

Bob mis, gan ddechrau ym mis Ionawr 2025, byddwn yn anfon newyddion diweddaraf y llyfrgell, erthyglau perthnasol a phethau hwyl eraill sy'n gysylltiedig â'r llyfrgell yn uniongyrchol i'ch mewnflwch. P'un a ydych chi'n chwilio am awgrymiadau astudio, argymhellion llyfrau, neu wybodaeth am weithdai sgiliau neu adnoddau llyfrgell, ein cylchlythyr yw'r union beth sydd ei angen arnoch chi.

Peidiwch â cholli allan—ymunwch â'n cymuned o ddarllenwyr a dysgwyr heddiw!

Sesiynau Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu 17/12/2024 - 10/01/2025

16/12/2024

Rhagfyr

17/12 E-learning Essentials: Preparing your Online Exam (Ar-lein)

Ionawr

06/01 Blackboard AI Design Assistant (Ar-lein)

10/01 Blackboard AI Design Assistant (Ar-lein)

Amserau/archebu

Ydych chi'n paratoi aseiniad?

30/10/2024

Angen rhywfaint o arweiniad?

Ymwelwch â'r safle Ysgrifennu ar gyfer aseiniadau yn SgiliauAber https://www.aber.ac.uk/cy/aberskills/writing-assignments/

Datblygwch eich arddull ysgrifennu a deall strwythurau aseiniadau. Darganfyddwch wybodaeth am ysgrifennu traethodau, adroddiadau, cyflwyniadau a mwy!

Datblygwch eich sgiliau academaidd, astudio a phroffesiynol gyda SgiliauAber https://www.aber.ac.uk/cy/aberskills/

Rheoli eich amser yn effeithiol

20/11/2024

Mae bywyd prifysgol yn brysur gyda llawer o weithgareddau—sut ydych chi'n cydbwyso'r cyfan? Gall rheoli eich amser yn effeithiol hybu llwyddiant academaidd — edrychwch ar yr adnodd canlynol i ddysgu sut: Rheoli amser

Mwy o wybodaeth i ddatblygu eich sgiliau: SgiliauAber