Staff
Mae’r Gwasanaethau Gwybodaeth (GG) yn darparu gwasanaethau llyfrgell, cyfrifiadurol a chyfryngau i Brifysgol Aberystwyth. I ddefnyddio ein hadnoddau byddwch angen cyfrif e-bost Prifysgol Aberystwyth a cherdyn Aber. Mae pob defnydd yn amodol ar Reolau a Chanllawiau’r Gwasanaethau Gwybodaeth.
Mae cyfrifon cyfrifiadurol ar gyfer pob aelod o staff, gan gynnwys staff dros dro, staff nad ydynt ar gontract, staff er Anrhydedd ac Arholwyr Allanol, yn cael eu cynhyrchu a’u diweddaru o system yr adran Adnoddau Dynol/Cyflogau drwy gyfrwng proses dros nos. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi llenwi a chyflwyno’r holl ffurflenni y gofynnodd Adnoddau Dynol amdanynt. I Arholwyr Allanol caiff mynediad cyfrifiadurol ei ddarparu drwy’r Swyddfa Ansawdd Academaidd a Chofnodion.
- Ysgogi eich cyfrif e-bost
- Gwneud cais am gerdyn Aber
- I gael rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r Gwasanaethau Gwybodaeth gweler ein tudalen groeso i staff newydd
Staff sydd wedi ymddeol
Gall staff sydd wedi ymddeol gael Darllenyddiaeth Gysylltiol rhad ac am ddim i adnoddau llyfrgell y Brifysgol a chyfeiriad e-bost alumni.
Os ydych chi’n dal i weithio i’r Brifysgol mewn rhyw ffordd cysylltwch ag Adnoddau Dynol.
Blwch post a rennir
Gall staff sydd eisiau blwch post y gellir ei rannu â chydweithwyr wneud cais am Flwch post a rennir
Storfa ffeiliau a rennir
Gall staff sydd eisiau ardal o’r rhwydwaith i storio ffeiliau y gellir eu rhannu â chydweithwyr wneud cais am Storfa Ffeiliau a Rennir