Prifysgol Aberystwyth yn yr Eisteddfod Genedlaethol 2024
Dewch i ymuno â ni ar faes Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf eleni.
Edrychwn ymlaen at groesawu ymwelwyr i'n stondin yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd, rhwng 3ydd a 10fed o Awst 2024.
Bydd cynrychiolwyr o’n Hadrannau Academaidd wrth law yn ystod yr wythnos, i drafod ein hystod o gyrsiau ac i roi cipolwg ar ein hymchwil arloesol, sy’n gwneud gwahaniaeth i fywydau bob dydd.
Edrychwch ar ein hamserlen ddyddiol isod.
Dydd Llun 5 Awst
Amser | Sgyrsiau | Lleoliad |
---|---|---|
13:00 | Sgyrsiau creadigol am ddyfodol cyfansoddiadol Cymru Trafodaeth am sut all dulliau gweledol gyfrannu at y drafodaeth am ddyfodol cyfansoddiadol Cymru, a beth yw’r gwersi o Gymru ar gyfer y Deyrnas Gyfunol a thu hwnt. |
Stondin Prifysgol Aberystwyth |
15:00 | Milfeddygaeth Ddoe a Heddiw Sesiwn yn edrych ar sut mae milfeddygaeth wedi newid ar draws y blynyddoedd yn cwmpasu offer, meddyginiaethau a therminoleg hanesyddol a modern, ynghyd â chipolwg ar addysgu myfyrwyr milfeddygol yn 2024 ym Mhrifysgol Aberystwyth. |
Stondin Prifysgol Aberystwyth |
16:30 | Seremoni’r Coroni Ymunwch gyda ni i wylio’r seremoni Coroni ar ein stondin. |
Stondin Prifysgol Aberystwyth |
Amser | Gweithgaredd | Lleoliad |
---|---|---|
9-5 | Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Arddangosfa ffotograffiaeth ‘Darlunio’r Dyfodol’ Ffotograffiaeth o brosiect ymchwil o dan arweiniad yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol sy’n defnyddio ffotograffau i ddeall sut mae pobl yn teimlo am annibyniaeth yng Nghymru, yr Alban, a Chatalwnia. |
Stondin Prifysgol Aberystwyth |
11-2 | Ysgol Fusnes Aberystwyth Bydd Jonathan Fry (Darlithydd mewn Busnes a Rheolaeth) yn bresennol ar y stondin i drafod yr amrywiaeth o ddarpariaeth sydd ar gael yn Ysgol Fusnes Aberystwyth gan gynnwys y cynlluniau gradd Busnes a Rheolaeth, Marchnata, Twristiaeth, Economeg a Chyfrifeg a Chyllid. |
Stondin Prifysgol Aberystwyth |
2-4 | Ysgol Gwyddor Filfeddygol Aberystwyth Bydd Sharon King a Jonathan King (Darlithwyr Gwyddor Milfeddygol) yn bresennol ar y stondin i drafod unrhyw agweddau yn ymwneud ac astudio Gwyddor Milfeddygol ym Mhrifysgol Aberystwyth ac ateb unrhyw gwestiynau. |
Stondin Prifysgol Aberystwyth |
Dydd Mawrth 6 Awst
Amser | Sgwrs | Lleoliad |
---|---|---|
11:30 | Pam ddylem ystyried profiadau menywod yr unfed ganrif ar hugain yng Nghymru? Trafodaeth am Hi/Hon (Gwasg Honno, 2024), sef cyfrol o straeon, ysgrifau a darluniau sy'n cynnig sylwebaeth amrywiol ar fenywdod yng Nghymru yn yr unfed ganrif ar hugain, gyda'r golygyddion Catrin Beard ac Esyllt Angharad Lewis, a rhai o'r cyfranwyr. |
Stondin Prifysgol Aberystwyth |
13:30 |
UMCA yn dathlu 50! Panel holi ac ateb gyda chyn-lywyddion UMCA. |
Stondin Prifysgol Aberystwyth |
Amser | Gweithgaredd | Lleoliad |
---|---|---|
10-2 | Dysgu Gydol Oes Mae Dysgu Gydol Oes Prifysgol Aberystwyth yn cynnig ystod eang o gyrsiau rhan-amser ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol. Mae ein cyrsiau’n agored i oedolion o bob oed, yn ogystal â myfyrwyr mewn unrhyw Brifysgol. Mae llawer o'n cyrsiau yn cael eu dysgu ar-lein neu dysgu cyfunol sy'n rhoi'r hyblygrwydd i chi astudio pryd a ble rydych chi eisiau. Ond rydym hefyd yn parhau i ddarparu cyrsiau gwyneb-i-wyneb mewn amryw feysydd. |
Stondin Prifysgol Aberystwyth |
Dydd Mercher 7 Awst
Amser | Sgwrs | Lleoliad |
---|---|---|
11:30 |
'O'r Fro i'r Byd' Darlith Flynyddol EG Bowen |
Cymdeithasau |
13:00 |
Digwyddiad ARFOR |
Stondin Prifysgol Aberystwyth |
13:00 |
Aduniad Cyn-Fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth Sylwch fod angen rhag-gofrestru i fynychu'r digwyddiad hwn. |
Clwb Y Bont |
Amser | Gweithgaredd | Lleoliad |
---|---|---|
11-1 |
Canolfan Addysg Gofal Iechyd |
Stondin Prifysgol Aberystwyth |
10-11 2-3 |
Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear |
Stondin Prifysgol Aberystwyth |
Dydd Iau 8 Awst
Amser | Sgwrs | Lleoliad |
---|---|---|
11:00 |
Ambell gerdd goll gan Gwenallt a T. H. Parry-Williams Sesiwn yn lansio cyfres o ddigwyddiadau a fydd yn cymryd lle dros y flwyddyn academaidd nesaf i ddathlu 150 mlwyddiant Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd. |
Stondin Prifysgol Aberystwyth |
13:00 | Wedi’r Etholiad Cyffredinol Trafodaeth banel gyda chynfyfyrwyr yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn dadansoddi canlyniadau a goblygiadau’r Etholiad Cyffredinol yn y Deyrnas Unedig ar gyfer Cymru a thu hwnt. |
Stondin Prifysgol Aberystwyth |
15:00 | BBC Cymru yn 60 oed: edrych 'nôl ac edrych 'mlaen Darlith a sgwrs gyda'r Athro Jamie Medhurst (Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu) a Rhys Evans (Pennaeth Materion Corfforaethol a Pholisi Cyhoeddus, BBC Cymru Wales). Cyfle i drafod hanes, datblygiad, a dyfodol gwasanaeth teledu BBC Cymru wrth iddo gyrraedd 60 oed eleni. |
Stondin Prifysgol Aberystwyth |
Amser | Gweithgaredd | Lleoliad |
---|---|---|
11-4 | Adran Mathemateg Datrys problemau mathemateg gyda swigod - ydych chi erioed wedi meddwl pam fod swigen yn siâp sffêr? Byddwn yn defnyddio swigod er mwyn arsylwi ar rai o’r siapiau gaiff ei ffurfio gan arwynebau minimol, yn ogystal â datrys problem Steiner er mwyn cynnig y ffordd fyrraf o gysylltu rhai o’n trefi a’n dinasoedd. |
Stondin Prifysgol Aberystwyth |
Dydd Gwener 09 Awst
Amser | Sgyrsiau | Lleoliad |
---|---|---|
14:00 |
Yr Economi a’r Iaith Gymraeg: Arfor a thu hwnt Siaradwyr: Adam Price AS; Elen Bonner, Prifysgol Bangor; Llŷr Roberts, Mentera; Ioan Teifi, Wavehill gyda Dr Elin Royles, Prifysgol Aberystwyth yn cadeirio. |
Y Lido |
15:00 |
Mapio Stondinau Llaeth cefn gwlad Ceredigion |
Stondin Prifysgol Aberystwyth |
16:30 | Seremoni’r Cadeirio Ymunwch gyda ni i wylio’r seremoni Cadeirio ar ein stondin. |
Stondin Prifysgol Aberystwyth |
Amser | Gweithgaredd | Lleoliad |
---|---|---|
11-1 |
Adran Y Gyfraith a Throseddeg |
Stondin Prifysgol Aberystwyth |
1-2 |
Astudiaethau Cyfieithu Proffesiynol - Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd |
Stondin Prifysgol Aberystwyth |
Bydd Adran y Gwyddorau Bywyd yn bresennol drwy gydol yr wythnos ac yn cynnal gweithgareddau i blant ysgol gynradd.
Galwch draw i ddysgu mwy am ficrobau, ffyngau, bacteria a llawer mwy!
A oes gennych atgofion, straeon, neu luniau am dywydd eisteddfodol ddoe a heddiw? Dewch i'r stondin i weld sut allwch chi gyfrannu at brosiect 'Tywydd Eisteddfodol' newydd!