Materion Israddedigion

ASESIADAU SEMESTER DAU

 

Amgylchiadau Arbennig:  Cofiwch roi gwybod i'ch adran[nau] am unrhyw anghenion arbennig (meddygol, personol ac ati) a allai effeithio ar eich perfformiad yn Semester Un mewn digon o bryd, a CYN y cyfarfodydd byrddau arholi.  Gwnewch hyn trwy gwblhau “Ffurflen Amgylchiadau Arbennig” sydd ar gael gan eich Adran drwy ddolen ar eich Cofnod Myfyriwr neu ar y we yma: https://www.aber.ac.uk/cy/aqro/handbook/taught-schemes/.  Rhaid i fyfyrwyr gyflwyno’r ffurflen amgylchiadau arbennig i’r adran(nau) academaidd ynghyd ag unrhyw dystiolaeth gefnogol.  Bydd yn llawer mwy anodd newid marciau am fodiwlau unwaith y cytunwyd arnynt gan byrddau arholi’r adran ar Senedd.

 

Amserlen yr Arholiadau: Cofiwch wneud yn siŵr o’r amserlen arholiadau eich bod yn troi i fyny yn y man iawn ar yr amser iawn. Nid yw camddeall yr amserlen yn rheswm dilys am fod yn absennol ac fe allech fethu'r flwyddyn gyfan o ganlyniad i hyn.

 

Canlyniadau Semester Dau: Ar ôl i’r Bwrdd Arholi gadarnhau eich marciau bydd eich canlyniadau yn cael eu gosod ar eich Cofnod Myfyriwr ar y we ar ôl 10yb ar y dyddiad canlynol:

 

  • Holl fyfyrwyr y flwyddyn olaf:          Dydd Iau 27 Mehefin
  • Pob myfyriwr arall:                             Dydd Iau 4 Gorffennaf

 

Asesiadau Ailgynnig yr Haf: Mae'n hanfodol eich bod yn gwirio'ch canlyniadau a'ch tasg Asesiadau Ailgynnig Haf ar gyfer modiwlau rydych wedi'ch cofrestru'n awtomatig i'w hailsefyll ac ar gyfer unrhyw fodiwlau y mae gennych yr opsiwn i ailsefyll ynddynt. Bydd angen i rai myfyrwyr gofrestru ar gyfer ailsefyll ym mis Awst felly mae'n bwysig eich bod yn gwirio'ch tasg i weld eich opsiynau os oes gennych rai.  Mae’r dag ar gael fel arfer y diwrnod y caiff eich canlyniadau eu rhyddhau am bythefnos.

 

Dylai myfyrwyr sydd yn disgwyl ei thystysgrif radd derfynol sicrhau bod ei enw a chyfeiriad cartref yn gywir.  Eich enw fel mae yn ymddangos ar eich cofnod myfyriwr fydd sut y caiff ei argraffu ar eich tystysgrif gradd, a’ch cyfeiriad cartref fel y mae’n ymddangos ar eich cofnod myfyriwr yw lle bydd eich tystysgrif yn cael ei hanfon os na fyddwch yn ei chasglu’n bersonol ar ôl graddio.  Sicrhewch fod y wybodaeth hon yn gywir erbyn 20 Mehefin 2024 fan bellaf.

Gwybodaeth i Israddedigion

Cysylltwch â Ni

Tîm E-bost Ffôn
Gweinyddu Myfyrwyr Israddedig ugfstaff@aber.ac.uk (01970) 622290 / 628515 / 622787
Gweinyddu Myfyrwyr Dysgu o Bell dlrstaff@aber.ac.uk (01970) 622290 / 622057
Tystysgrifau aocstaff@aber.ac.uk (01970) 622016 / 622354 / 622849
Graddio gaostaff@aber.ac.uk (01970) 622354 / 622849

Yr ydym ar agor dydd Llun i dydd Iau 9yb at 5yp a dydd Gwener 9yb at 4yp ar y llawr cyntaf, adeilad Cledwyn , campws Penglais.

Swyddfa Gweinyddu Myfyrwyr

Cofrestrfa Academaidd, Prifysgol Aberystwyth,

Llawr cyntaf, Adeilad Cledwyn,

Campws Penglais,

Aberystwyth

SY23 3DD

Gwasanaethau ymholiad rhithwir